Senedd Cymru / Welsh Parliament

Y Grŵp Trawsbleidiol ar STEMM

ADRODDIAD BLYNYDDOL Medi 2021 – Medi 2022

AELODAETH

Cadeirydd: David Rees AS

Is-gadeirydd: Jack Sargeant AS

Is-gadeirydd: Mark Isherwood AS

Altaf Hussain AS

Joel James AS

Luke Fletcher AS

 

Ysgrifenyddiaeth: Niall Sommerville, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

 

Aelodau allanol:

 

Cerian Angharad (y Gymdeithas Addysg Wyddoniaeth); Dr Robert Hoyle (Llywodraeth Cymru); Dave Harwood (y Sefydliad Peirianneg Fecanyddol); David Jones (y Gymdeithas Ddaearegol); yr Athro Ian Wells (y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg); yr Athro Faron Moller (Technocamps); Wendy Sadler MBE (Science Made Simple); Yr Athro Mike Edmunds (y Gymdeithas Seryddol Frenhinol); Keith Jones (Sefydliad y Peirianwyr Sifil); Andrew Mackenzie (y Gymdeithas Ffisiolegol); Dr Rob Janes (y Brifysgol Agored); Yr Athro Alan Shore (Cymdeithas Ddysgedig Cymru); Yr Athro Mike Charlton (Cymdeithas Ddysgedig Cymru); Dr Geertje van Keulen, (y Gymdeithas Microbioleg); Jenny Scott (Cyngor Prydain); Dr Matthew Allen (Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd); Dr Dayna Mason (y Gymdeithas Gemeg Frenhinol); Glen Gilchrist (Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De); Helen Obee Reardon (Prifysgol Caerdydd); Leigh Jeffes; Helen Taylor (Prifysgol Metropolitan Caerdydd); Susie Rabin (y Gymdeithas Fioleg Frenhinol); Sarah Morse (Cymdeithas Ddysgedig Cymru); Maija Evans (Cyngor Prydeinig Cymru); Tom Addison (Y Gymdeithas Ffisiolegol); Rhobert Lewis (Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot); Talib Mahdi (Prifysgol Caerdydd); Stephen French (y Sefydliad Gwyddor Bwyd a Thechnoleg); Alvin Orbaek White (Prifysgol Abertawe); David Cunnah (UKRI InnovateUK); Eluned Parrott (y Sefydliad Ffiseg); George Skilling (y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg); Richard Duffy (y Sefydliad Ffiseg); Katie O'Connor (y Gymdeithas Microbioleg)

 

CYFARFODYDD

Cyfarfu'r grŵp trawsbleidiol dair gwaith:

 

28 Medi 2021 - Prif ddiben y cyfarfod hwn oedd ailsefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol ar STEMM yn dilyn yr etholiad ym mis Mai, gan gynnwys cytuno ar bynciau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol a diben y grŵp. Cafodd David Rees AS ei ethol yn Gadeirydd, a chafodd Jack Sargeant AS a Mark Isherwood AS ill dau eu hethol yn Is-gadeiryddion y grŵp trawsbleidiol. Cafodd aelodau’r grŵp gyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp ynghylch y pynciau allweddol y mae eu sefydliadau'n canolbwyntio arnynt ar hyn o bryd.

 

17 Mai 2022 – Digwyddiad ‘Gwyddoniaeth a’r Senedd’, a drefnwyd ar y cyd â’r Grŵp Trawsbleidiol ar STEMM. Cafodd y 18fed digwyddiad o’r fath ei gynnal yn adeiladau’r Senedd a’r Pierhead. Prif bwnc y digwyddiad oedd arloesi, a chafwyd amrywiaeth o siaradwyr o nifer sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Sefydliad Ffiseg, Bargen Dinas-Ranbarth Caerdydd, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ac eraill. Yn dilyn y digwyddiad, cynhaliwyd derbyniad ac arddangosfa gyda'r nos, a oedd yn cwmpasu mwy nag 20 o sefydliadau. Roedd y derbyniad yn cynnwys areithiau gan yr holl bleidiau gwleidyddol sy’n cael eu cynrychioli yn y Senedd. Clywyd hefyd gan Weinidog yr Economi.

 

14 Mehefin 2022 – Yn ystod y cyfarfod hwn, clywyd cyflwyniadau gan y siaradwyr a ganlyn: Dr. Richard Hugtenburg, Athro Cyswllt Ffiseg Feddygol, Prifysgol Abertawe; Yr Athro Richard Johnston, Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, Prifysgol Abertawe; a Dr. Robert Hoyle, Pennaeth Gwyddoniaeth, Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru. Cafodd y siaradwyr gyfle i ymdrin â phynciau amrywiol, gan gynnwys ffiseg feddygol, delweddu ym maes STEM, a radioisotopau meddygol.

 

 

 

DATGANIAD ARIANNOL

 

Gan fod yr holl gyfarfodydd hyn wedi cael eu cynnal ar-lein, nid oedd unrhyw gostau wedi'u hysgwyddo nac wedi’u rhoi yn rhoddion dros y cyfnod a gwmpesir yn yr adroddiad blynyddol hwn.

_______________________________________________________________________

Niall Sommerville

Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar STEMM

Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol

Rheolwr Materion Cyhoeddus

Medi 2022